Mae Nefyn ar arfodir gogledd orllewin Penrhyn Llŷn ar dref agosaf yw Pwllheli ar hyd yr A497. Mae yma boblogaeth o 2,602 yn ol cyfrifiad 2011 ac mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf 73% o’i thrigolion. Ond bu statws drefol i Nefyn am flynyddodedd ac mae’r i’r lle hwn hen hanes.
Mae’r enw ‘Nefyn’ yn tarddu o’r enw Gwyddeleg ‘Cnaimhin’, ystyr yr enw yw ‘sant bychan’ neu ‘sanctaidd’. Daw’r cyfeiriad cynharaf am Nefyn o ddogfennau cofiant ‘Historia Gruffudd ap Cenan’, mor leidr o dras Wyddelig, Llychlynnaidd a Chymreig a oedd yn dad i Owain Gwynedd ac yn daid i Lywelyn Fawr. Wedi ymgyrchu am gyfnod hir i reoli Gwynedd, llwyddodd gyda brenin Ynys Manaw- Godred i lanio ei gwch yn harbwr Porth Nefyn, ymosod a chipio’r castell Normanaidd yn Nefyn. Mae’n debyg fod hyn yn rhan o wrthryfel mawr y Cymru yn 1094.
Mae cofnod hefyd o Gerallt Gymro yn aros yn Nefyn ar noswyl Sul y Blodau yn Ebrill 1188, tra ar ei gyrch trwy Gymru’n codi ymwybyddiaeth o’r croesgadau.
Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd Nefyn yn dref fasanachol lwyddiannus, mae son am Edward y 1af yn cynnal ymryson yng Nghae Iorwerth yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros y Cymru, ac erbyn 1355 daeth yn fwrdeistref rydd ac yn ganolfan fasnachol lwyddiannus.
Ar hyd y canrifoedd mae’r mor wedi chwarae rhan bwysig iawn yn hanes Nefyn a’i phobl. Mae traeth tywodlyd eang yn Nefyn ac adeiladwyd llongau yma hefyd fel ym Mhorthdinllaen- 120 o longau yn Nefyn rhwng 1760 ac 1880. Roedd pysgota’n ffordd o fyw, ac yn aml byddai pysgota a ffermio ar y cyd yn gynhaliaeth i amryw. Y pysgodyn a gysylltir a Nefyn bob amser yw’r penwaig. Pysgodyn olewog yw hwn a fyddai’n cael ei halltu ei biclo neu ei fygu. Byddai arfordir Gogledd Llŷn o Nefyn i Ynys Enlli yn lle da ofnadwy i ddal penwaig a daeth Nefyn yn brif fan bysgota penwaig yng Ngogledd Cymru. Mae’n debyg fod twr Nefyn wedi ei godi yn sgil y bysgodfa benwaig pan oedd yn ei hanterth yn gynnnar yn bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Un o brif atyniadau Nefyn yw’r Amgueddfa Forwrol sydd wedi ei lleoli yn yr hen Eglwys Santes Fair a fu’n eglwys y plwyf hyd at 1912. Mae hanes cyfoethog y diwydiant llongau a physgota yn yr amgueddfa hon yn ogystal a hanes y chwareli yn y mynyddoedd sy’n codi ar yr ochr ddwyreiniol i’r pentref.
Yn Stryd y Llan mae Amgueddfa Forwrol Llŷn, ac ar droad y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y rhan fwyaf o adeiladau Nefyn wedi eu lleoli yn ardal y Groes, Stryd y Ffynnon, Stryd y Plas a’r Stryd Fawr. Y diwydiant twristaidd yn yr ugeinfed ganrif sydd wedi hybu datblygiad ardal Ffordd Dewi Sant a Rhodfa’r Mor- dechreuodd y datblygaid hwn gyda chodi Eglwys Dewi Sant 1903 ac yna Gwesty Nanhoron yn 1914. Ar y ffordd yma hefyd mae Ysgol Nefyn lle mae o ddisgyblion. Yn berthnasol iawn, ‘Angor Gadarn i Lywio’r Don’ yw arwyddair yr ysgol, a’r tri phenwaig yw’r arwyddlun.
Yn ymyl yr ysgol mae canolfan newydd sbon sydd yn cynnig bob math o weithgareddau a digwyddiadau yn ddyddiol. Dros y ffordd yn Rhodfa’r Mor mae llyfrgell y pentref sydd hefyd mewn adeilad newydd.
Mae Nefyn fel Morfa yn bentref sy’n prysuro o gyfnod y Pasg tan ddiwedd Medi ac mae amrywiaeth o lefydd aros o gwmpas y pentref yn westai, lletai a thai hunan arlwyo.
Y B4417 yw’r ffordd fawr sydd yn cysylltu’r tri phentref. Ond os bydd amser gennych, y ffordd orau o ddigon i fynd o Nefyn, i Morfa ac yna ymlaen i Edern ydi ar hyd y llwybr arfordirol sydd yn mynd ar hyd copa’r gelltydd uwchben y mor. Dyma adnodd gwerthfawr sy’n cysylltu nifer o safleoedd sydd o ddiddordeb mawr yn hanesyddol, diwylliannol ac amgylcheddol o gwmpas arfordir Pen Llŷn. Troediodd y Pererinion ran helaeth o’r llwybrau hyn ar eu teithiau i Ynys Enlli, cyfle perffaith i gadw’n heini tra’n mwynhau’r golygfeydd bendigedig.