Daw’r enw ‘Edern’ o ‘Edeyrn’. Roedd Sant Edeyrn yn fab i Gwyrtheyrn- brenin y Brythoniaid a rhyfelwr o’r bumed ganrif, roedd ganddo ddau frawd- Elldeyrn a Sant Aerdeyrn. Mae’r enw Sant Edeyrn ar eglwys y plwyf heddiw, gall fod cell grefyddol yn yr ardal a dylanwad Sant Edeyrn arni, yn dyddio yn ol i oes y seintiau. Mae’n debygol mai o gwmpas Eglwys Edern y tyfodd y pentref yn wreiddiol.
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd Edern yn drefgordd gaeth, ac esgob Bangor oedd yn gyfrifol amdani. Roedd 42 o denantiaid yn byw yn Edern amser hynny ac roeddent yn amaethu tua 60erw o dir yn yr ardal. Roedd nifer o faenorau yn nwylo’r Esgob yn ystod yn cyfnod hwn ac roedd Edern yn un o’r maenorau hynny. Roedd ganddo dy yn Edern, a 50erw o dir hefyd ac ar y tir hwn roedd melin ddwr ganoloesol er mwyn malu yd, ac yn yr un fan y safai’r felin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ochr Ogleddol Afon Geirch -yn ymyl y bont ar waelod Allt Goch, mae yn dy gwyliau erbyn heddiw. Ac i’r adeilad hwn sef i’r’Felin’ y byddai J. Glyn. Davies awdur Caneuon Fflat Huw Puw- yn dod am fis o wyliau yn ystod yr haf. Roedd ganddo feddwl y byd o’r plwyfi hyn a’r trigolion.
Nepell o’r felin, mae eglwys y plwyf sef Eglwys Sant Edern. Codwyd yr adeilad presennol yn 1868 yn ymyl fferm Ty’n Llan. Mae gwasanaethau yn cael eu cynnal yno’n dal i fod. Yn ymyl yr eglwys mae’r ysgoldy a fu’n ysgol i blant y fro am ddegawdau. Roedd rheithordy 300metr i’r de-ddwyrain, lle saif Gwesty’r Goedlan heddiw. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y pentref yn tyfu. Erbyn 1840 roedd dwsin o adeiladau ar hyd y ffordd o’r de i’r gorllewin, ac i fyny’r allt oddi wrth afon Geirch. Safai’r felin a soniwyd amdani ynghynt, ar yr ochr arall. I’r gorllewin oddi wrth y felin ar hyd y lon roedd cymuned fach wedi codi o gwmpas y groesffordd, ac fel y ‘groesfordd’ yr adwaenid y fan hon, mae’r enw wedi troi yn ‘gysffor’ ers talwm, ar lafar gwlad. Yma y cododd y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn 1842, ond fe gafodd ei helaethu yn 1877. Mae’n cael ei ddefnyddio fel addoldy o hyd. O’r groesffoedd, mae un ffordd yn arwain tuag at y gogledd ar mor. Fel Nefyn a Morfa, mae’r mor wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau trigolion Edern hefyd. Un o’r llongddrylliadau enwocaf (ac mae sawl un wedi bod ar greigiau’r arfordiroedd rhain) oedd trychineb y Cyprian. Agerlong oedd hi a hwyliai o Lerpwl i Genoa ym mis Hydref 1881. Roedd y mor yn berwi’r diwrnod hwnnw, a hyrddiwyd y llong ar greigiau Rhosgor. Roedd hyd yn oed yn rhy ryfygus i lansio Bad Achub Porthdinllaen. Ceisiodd y Capten Strachaan a’r criw ddianc, ond boddwyd nifer o’r morwyr. Gwobrywyd dewrder ac ymdrech trigolion lleol wrth iddynt geisio achub criw y Cyprian, a chawsant sofren yn gydnabyddiaeth gan sgweiar Nanhoron ynghyd a thystysgrif. Mae carreg wedi ei gosod ym mynwent Edern er cof am yr 19 o forwyr a gollodd eu bywydau yn y drychineb.
Mae’r ffordd gyferbyn a’r lon sy’n mynd am y mor, yn arwain i’r de tuag at Gefnedern a Glanrhyd. Ar hyd y ffordd yma mae Ysgol Gynradd Edern hefyd, a godwyd yn 1950 ac sydd heddiw yn dysgu 88 o blant yr ardal. Mae’r ffordd i’r gorllewin o’r pentref yn arwain tuag at Aberdaron, ac o ddilyn y lon ddwyreiniol am ryw filltir, fe ddowch yn ol i Morfa Nefyn.
Cywydd I Leyn
Draw ac war bob drycin,
gaeafaidd neu hafaidd hin,
boed niwlog, boed yn heulwen,
boed lliw dydd, boed lleuad wen,
boed llyfn ddwr, boed arw’r don,
gwyliaf tra curo’r galon,
Can’s dyna’r fan mae arfor
Lleyn yn ymestyn i’r mór.
J. Glyn Davies 1900