Morfa Nefyn

Pentref ar arfordir ogleddol Penrhyn Llyn ydi Morfa Nefyn. Wrth deithio ar hyd y B4417, mae Morfa filltir i’r gorllewin o bentref hynafol Nefyn. Y dref agosaf ydi Pwllheli sydd 7 milltir i’r de ar hyd yr A479. Er fod  ambell i fwthyn yn Morfa yn dyddio yn ol i ganol y ddeunawfed ganrif, ac olion patrymau gerddi o’r oesoedd canol ar y caeau yn Nefyn a Morfa, o 1806 ymlaen y tyfodd Morfa i fod yn bentref, gyda dyfodiad y ffordd dyrpeg newydd a a’i ar draws Llyn, o’r Traeth Mawr i Borthdinllaen.

Cymraeg yw iaith naturiol y pentref gyda 72% o’r boblogaeth o 1,229 yn ei siarad.

Calon y pentref yw Ysgol Morfa Nefyn, ysgol fabanod lle mae 50 o blant yn ei mynychu. Cynhelir Cylch Meithrin Morfa yng nghanolfan y pentref ac mae’r ganolfan hon yn leoliad i nifer o gymdeithasau a digwyddiadau. Bydd capel Moreia yn cynnal cyfarfodydd yn wythnosol yn ogystal a’r Ysgol Sul, ac mae cyfarfodydd tymhorol yn Eglwys Santes Fair o dan ofal Cyfeillion yr Eglwys. Mae’r Eglwys Gatholig hefyd yn cynnal gwasanaethau ar Suliau yn achlysurol.

Wrth ddod i lawr Lon Bridin i’r traeth o’r pentref, mae Bae Morfa Nefyn rhwng Penrhyn Porthdinllaen  a Phenrhyn Nefyn, yn filltir a chwarter ar ei draws ac mae yma 100 acer o for sydd a’i ddyfnder ar gyfartaledd yn 30ain troedfedd. Mae’r bae cilgant godidog hwn wedi ei amgylchynnu gan elltydd uchel sy’n codi rhwng 80 a 100 troedfedd. I’r dwyrain o’r bae gwelir mynyddoedd Yr Efil, a chopaon Eryri y tu hwnt iddynt. Ar ochr orllewinol y bae mae hen dreflan bysgota Porthdinllaen sydd a thoreth o hanes morwrol yn perthyn iddi, ac yma y saif tafarn Ty Coch. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd berchen y traeth a’r adeiladau sydd yno ers 1994. Defnyddiwyd yr harbwr ar gyfer masnachu am ganrifoedd, a hynny yn ei anterth yn y bedwredd ganrif ar bymtheg. Datblygodd masnach lewyrchus rhwng Porthdinllaen a De Cymru, Iwerddon, Mersi a Dyfrdwy. Byddai hefyd yn harbwr diogel i longau yn chwilio am loches. Heddiw, i lawr i’r chwith o Dy Coch mae Bae’r Bad Achub newydd y ‘John D Spicer’ yn ei gwt newydd sbon, bu seremoni agoriadol i agor y safle yn swyddogol ac enwi’r cwch fis Medi y llynnedd. Uwchben y gelltydd, yn ymyl y Clwb Golff mae Gwylwyr y Glannau.

Heddiw mae’r pentref ar ei brysuraf rhwng Mawrth a diwedd Medi, mae tafarndai yn y pentref yn cynnig prydau  ac mae amrywiaeth o ran llefydd i aros ynddynt- yn dai hunan-arlwyo, lletai a gwersylloedd carafanau. Mae Morfa mewn bro o harddwch naturiol eithriadol, mae Cwrs Golff Nefyn yn atyniad poblogaidd, y traeth, ar holl lwybrau difyr sy’n gwau o amgylch yr ardal..